Proverbs 15

1Mae ateb caredig yn tawelu tymer;
ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.
2Mae geiriau person doeth yn hybu gwybodaeth,
ond mae cegau ffyliaid yn chwydu ffolineb.
3Mae'r Arglwydd yn gweld popeth,
mae'n gwylio'r drwg a'r da.
4Mae gair caredig fel coeden sy'n rhoi bywyd,
ond mae dweud celwydd yn torri calon.
5Mae'r ffŵl yn diystyru disgyblaeth ei dad,
ond mae'r sawl sy'n gwrando ar gerydd yn gall.
6Mae digon o gyfoeth yn nhŷ person cyfiawn,
ond trafferthion fydd unig gyflog pobl ddrwg.
7Mae pobl ddoeth yn rhannu gwybodaeth;
ond dydy ffyliaid ddim yn gwneud hynny.
8Mae'n gas gan yr Arglwydd offrymau pobl ddrwg,
ond mae gweddi'r rhai sy'n byw yn iawn yn ei blesio.
9Mae'n gas gan yr Arglwydd ymddygiad pobl ddrwg,
ond mae'n caru'r rhai sy'n trïo byw'n iawn.
10Mae'r un sydd wedi troi cefn ar y ffordd yn cael ei ddisgyblu'n llym;
bydd yr un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn marw.
11Mae'r Arglwydd yn gweld beth sy'n digwydd yn Annwn
15:11 Annwn Hebraeg, “Sheol ac Abadon” sef y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd.
,
felly mae'n sicr yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddyliau pobl!
12Dydy'r un sy'n gwawdio pobl eraill ddim yn hoffi cael ei gywiro;
dydy e ddim yn fodlon gofyn cyngor gan rywun doeth.
13Mae calon lawen yn rhoi gwên ar yr wyneb;
ond mae calon drist yn llethu'r ysbryd.
14Mae person call eisiau dysgu mwy;
ond mae ffŵl yn cael ei fwydo ar ffolineb.
15Mae pobl sy'n diodde yn cael bywyd caled,
ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.
16Mae ychydig bach gan rywun sy'n parchu'r Arglwydd
yn well na chyfoeth mawr gyda helbulon.
17Mae platiaid o lysiau ble mae cariad
yn well na gwledd o gig eidion â chasineb.
18Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn creu helynt;
ond mae person amyneddgar yn tawelu ffrae.
19Mae'r ffordd mae person diog yn ymddwyn fel llwyn o fieri,
ond mae llwybr yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn fel priffordd agored.
20Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus;
ond plentyn ffôl yn dangos dim parch at ei fam. b
21Mae chwarae'r ffŵl yn hwyl i rywun heb sens;
ond mae person call yn cadw ar y llwybr iawn.
22Mae cynlluniau'n mynd ar chwâl heb ymgynghori,
ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.
23Mae ateb parod yn gwneud rhywun yn hapus,
ac mor dda ydy gair yn ei bryd!
24Mae llwybr bywyd ar i fyny i'r doeth,
ac yn ei droi oddi wrth Annwn
15:24 Annwn Hebraeg,  Sheol, sef “y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd”
isod.
25Bydd yr Arglwydd yn chwalu tŷ y balch,
ond mae'n gwneud eiddo'r weddw yn ddiogel.
26Mae'n gas gan yr Arglwydd feddyliau drwg,
ond mae geiriau caredig yn bur yn ei olwg.
27Mae rhywun sy'n elwa ar draul eraill yn creu trwbwl i'w deulu;
ond bydd yr un sy'n gwrthod breib yn cael byw.
28Mae'r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb,
tra mae'r person drwg yn chwydu aflendid.
29Mae'r Arglwydd yn cadw draw oddi wrth bobl ddrwg,
ond mae'n gwrando ar weddi'r rhai sy'n byw'n gywir.
30Mae gwên yn llonni'r galon;
a newyddion da yn rhoi cryfder i'r corff.
31Mae'r glust sy'n gwrando ar gerydd buddiol
yn byw yng nghwmni'r doeth.
32Mae'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn ei gasáu ei hun;
ond yr un sy'n gwrando ar gerydd yn dangos synnwyr.
33Mae parchu'r Arglwydd yn dysgu rhywun i fod yn ddoeth;
a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.
Copyright information for CYM